
1 

(1) Teitl y Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 7 Rhagfyr 2001
(2) Bydd y Cynllun hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Yn y Cynllun hwn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “busnes amaethyddol” (“agricultural business”), at ddibenion y Cynllun hwn, yw busnes amaethyddol sy'n cael ei redeg yn rhannol o leiaf ar dir sydd wedi'i leoli mewn parth perygl nitradau;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenediaethol Cymru;
 mae i “parth perygl nitradau” yr un ystyr ag sydd i “nitrate vulnerable zone” yn rheoliad 3 o Reoliadau Diogelu Dŵ r rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996;
 mae i “slyri” yr un ystyr ag sydd i “slurry” yn rheoliad 2 o Reoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991.
(2) Yn y Cynllun hwn, mae unrhyw gyfeiriad—
(a) at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y Cynllun hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b) at is-baragraff â rhif (heb gyfeiriad cyfatebol at baragraff penodol) yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y gwelir y cyfeiriad ynddo.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi i unrhyw berson un neu fwy o grantiau i gynrychioli 40 y cant o'r gwariant a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg, sef gwariant sydd wedi'i dynnu ar ôl 7 Rhagfyr 2001 ond cyn 17 Ebrill 2003 ac—
(a) sy'n wariant mewn perthynas â'r canlynol—
(i) darparu, amnewid neu wella—(aa) cyfleusterau (gan gynnwys ffensys diogelwch) ar gyfer trafod a storio tail, slyri ac elifiant silwair,(bb) cyfleusterau gwaredu sefydlog ar gyfer slyri ac elifiant silwair, neu(cc) cyfleusterau (heblaw toeon) ar gyfer gwahanu dŵ r glân a dŵ r brwnt, os yw'r cyfleusterau hynny'n lleihau'r angen i storio slyri; neu
(ii) unrhyw waith, cyfleuster neu drafodyn (gan gynnwys gwaith cadwraeth neu waith hwyluso) o ganlyniad i unrhyw fater y gall grant gael ei roi mewn perthynas ag ef o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn;
(b) y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o natur gyfalaf neu ei fod wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur gyfalaf;
(c) sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion grant o dan y Cynllun hwn; ac
(ch) nad yw'n fwy na chyfanswm o £85,000.
(2) Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol bod gwariant yr hawlir grant mewn perthynas ag ef o dan is-baragraff (1) wedi'i dynnu yn rhannol at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg ac yn rhannol at ddibenion eraill, caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r gwariant hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at redeg y busnes amaethyddol hwnnw fel pe bai wedi'i dynnu at ddibenion rhedeg y busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg.
4 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi grant o dan is-baragraff (1) o baragraff 3—
(a) mewn perthynas ag unrhyw fusnes amaethyddol nad yw'n cael ei redeg yn rhannol o leiaf ar dir sydd wedi'i leoli mewn parth perygl nitradau; na
(b) tuag at unrhyw wariant a dynnir mewn perthynas â busnes amaethyddol sy'n golygu cynyddu ei allu i gynhyrchu.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi grant o dan is-baragraff (1) o baragraff 3 oni bai ei fod wedi'i fodloni y bydd y gwariant y rhoddir y grant tuag ato yn arwain at rywfaint o leiaf o fantais amgylcheddol i'r parth perygl nitradau o dan sylw.
5 

(1) Rhaid i unrhyw hawl am grant o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf, yn y modd ac erbyn y dyddiad y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu pennu, a rhaid i'r hawliwr o dan sylw roi'r holl fanylion a'r holl wybodaeth ynghylch yr hawliad y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt, gan gynnwys, pan bennir hynny, yr holl ddogfennau a chofnodion perthnasol.
(2) Yn is-baragraff (1), mae'r cyfeiriad at ddogfennau a chofnodion perthnasol yn cynnwys cyfeiriad at gopïau ardystiedig ohonynt.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybod yn ysgrifenedig i hawliwr a yw'r cais yn gymwys neu beidio, ac os nad yw'n gymwys, rhaid iddo roi'r rhesymau.
6 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddal y cyfan neu unrhyw ran o grant sydd fel arall yn daladwy o dan y Cynllun hwn yn ôl neu eu hadennill os yw o'r farn—
(a) bod cymorth mewn perthynas â'r gwariant yr hawlir y grant tuag ato wedi'i gael neu ei fod ar gael oddi wrth ffynhonnell arall;
(b) y byddai'r gwaith yr hawlir y grant mewn perthynas ag ef yn rhwystro dibenion cymorth a roddwyd yn flaenorol o arian a ddarparwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, y Senedd neu'r Gymuned Ewropeaidd;
(c) bod y gwariant yr hawlir y grant tuag ato yn ormodol, o roi sylw i holl amgylchiadau'r achos; neu
(ch) bod gwneud y gwaith y rhoddir y grant mewn perthynas ag ef eisoes wedi dinistrio neu wedi difrodi harddwch naturiol ac amwynder cefn gwlad i raddau na ellir eu cyfiawnhau ar sail unrhyw fantais amaethyddol a geir yn ei sgil.
(2) Cyn gweithredu o dan is-baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r rhesymau am ddal y grant yn ôl, ei leihau neu ei adennill i'r person y bydd ei benderfyniad yn effeithio arno (“y person yr effeithir arno”) a'r dyddiad y cymerir y camau hynny;
(b) rhoi cyfle i'r person yr effeithir arno ymddangos gerbron person a benodir at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael ei wrando ganddo;
(c) ystyried adroddiad person a benodir felly a rhoi copi ohono i'r person yr effeithir arno.
7 
Mae Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru a Lloegr) 1996 drwy hyn wedi'i ddiddymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2001