
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2002.
(2) Maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
2 
Diwygir Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989) fel a ganlyn —
(a) yn rheoliad 4(1)(a) yn lle'r geiriau “, a special school not so maintained or a grant-maintained school” rhowch y geiriau “or a special school not so maintained”; a
(b) diddymir rheoliad 8.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2001