
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymru) 2001 a daw i rym ar 15 Tachwedd 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.
2 

(1) Yn adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr prif gynghorau), yn lle “1995” ym mhob lle rhowch “2004”.
(2) Yn adran 35 o Ddeddf 1972 (cynghorwyr cymuned), yn lle “1995” rhowch “2004”.
(3) Mae tymor swydd y cynghorwyr presennol o dan adran 26(2) neu adran 35(2) yn cael ei estyn felly â blwyddyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Jane E. Hutt
Ysgrifennydd Cynulliad
29 Hydref 2001