
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) (Ffioedd) 2001; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 30 Hydref 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys tan ganol nos ar 31 Rhagfyr 2001.
2 
Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, godi ffi resymol mewn perthynas â chostau a dynnir yn rhesymol ganddo neu ganddi neu ar ei ran ef neu ar ei rhan hi ar ddeiliad unrhyw safle (gan gynnwys daliad) lle gwneir gwaith goruchwylio neu arolygu er mwyn penderfynu bod cynhyrchion yn gymwys i'w hanfon o dan Reoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jane E. Hutt
Ysgrifennydd Cynulliad
29 Hydref 2001