
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Diwygir Atodlen 2 (diffiniad o gollfarn benodedig) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983) ac Atodlen 4 (diffiniad o gollfarn benodedig) o Reoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff 2 o'r ddwy Atodlen ar ôl is-baragraff (a) mewnosodwch —“
(aa) in a case where the offender was under 18 at the time the offence was committed, an offence contrary to section 47 of the Offences Against the Person Act 1861 (assault occasioning actual bodily harm); or”.
(3) Ym mharagraff 9 o'r ddwy Atodlen hepgorwch “other than”, a mewnosodwch -“
 except for —
(a) in a case where the offender was under 18 at the time the offence was committed, an offence of assault; or
(b) ”.
(4) Ym mharagraff 13 o'r ddwy Atodlen —
(a) ar ôl is-baragraff (a) mewnosodwch yr is-baragraff canlynol —“
(aa) in a case where the offender was under 18 at the time the offence was committed, an offence contrary to section 47 of the Offences Against the Person Act 1861 (assault occasioning actual bodily harm); or”; ac
(b) yn is-baragraff (b) hepgorwch “other than” a rhoddwch “1885” yn lle “1985”.
(5) Hepgorir paragraff 14.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Hydref 2001