
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall —
 ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997;
 ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 1986.
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster - cyflenwi cyfarpar optegol), ar ôl paragraff (3)(j) ychwanegwch—“
(k) he is a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act”.
3 
Ym mharagraff (5) o reoliad 16 o Reoliadau 1997 (llenwi talebau), yn lle “or (f)” rhowch “(f) or (k)”.
4 
Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (profion golwg - cymhwyster), ar ôl paragraff (2)(j) ychwanegwch—“
(k) he is a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act”.
5 
Yn rheoliad 13B o Reoliadau 1986 (prawf golwg a drinnir fel prawf golwg o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol) —
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “or (f)” rhowch “(f) or (k)”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “or (f)” rhowch “(f) or (k)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
J.E.Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad
28 Medi 2001