
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001 a daw i rym ar 12 Medi 2001.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
(4) Yn y Gorchymyn hwn:
 ystyr “Rheoliad 2467/98 y Cyngor” (“Council Regulation 2467/98”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2467/98 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr ;
 ystyr “Rheoliad 1251/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol;
 ystyr “Rheoliad 1254/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo.
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, etc., fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 7 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(3) Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Medi 2001
ATODLEN
Erthyglau 1(2) a 2


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu £
1. Da byw
Buchod llaeth:  
Bridiau Ynysoedd y Sianel buwch 296
Bridiau eraill buwch 375
Buchod bridio cig eidion:  
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd 2001(a) buwch 51
Ar dir arall buwch 43
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) pen 45
Buchod llaeth i lenwi bylchau pen 30
Mamogiaid:  
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd 2001 mamog 10
Ar dir arall mamog 11
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵ yn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) pen 0.87
Moch:  
Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes 70
Moch porc pen 1.37
Moch torri pen 2.59
Moch bacwn pen 3.79
Dofednod:  
Ieir dodwy aderyn 0.90
Brwyliaid aderyn 0.09
Cywennod ar ddodwy aderyn 0.20
Tyrcwn aderyn 1.27
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 140
Ffa hectar 158
Had glaswellt hectar 125
Had llin hectar 22
Ceirch hectar 163
Rêp had olew hectar 82
Pys:  
Sych hectar 200
Dringo hectar 205
Tatws:  
Cynnar cyntaf hectar 835
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) hectar 860
Betys siwgr hectar 250
Gwenith hectar 197
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
Ffa cyffredin hectar 410
Ysgewyll Brwsel hectar 1505
Bresych, safwy a brocoli blaguro hectar 1730
Moron hectar 2270
Blodfresych a brocoli'r gaeaf hectar 975
Seleri hectar 8255
Cennin hectar 2945
Letys hectar 4150
Wynwns:  
Bylbiau sych hectar 1305
Salad hectar 4125
Bylbiau awyr agored hectar 1600
Pannas hectar 2591
Riwbob (naturiol) hectar 4845
Maip a swêds hectar 1210
4.Cnydau gwarchodedig
Narsisi gorfod 1000 metr sgwâr 6980
Tiwlipau gorfod 1000 metr 7175
5. Ffrwythau'r berllan
Afalau:  
Seidr hectar 420
Coginio hectar 1275
Melys hectar 1250
Ceirios hectar 690
Gellyg hectar 965
Eirin hectar 1215
6. Ffrwythau meddal
Cyrens Duon hectar 740
Mafon hectar 3000
Mefus hectar 3500
7. Amrywiol
Hopys hectar 1670
8. Neilltir
 hectar 28
NODIADAU I'R ATODLEN
Erthygl 2(4)
Nodyn i golofn 1

Nodiadau i golofn 3











