
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholiadau: Papurau Enwebu) (Ffurflen Gymraeg) 2001 a daw i rym ar 16 Awst 2001.
2 

(1) Rhagnodir drwy hyn mai “Annibynnol” yw'r ffurfeiriad Cymraeg ar gyfer y gair “Independent” a bennir yn adran 22(3)(a)(i) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
(2) Gall y ffurfeiriad Cymraeg a ragnodir gan baragraff (1) gael ei ddefnyddio yn ychwanegol at y gair Saesneg cyfatebol neu yn ei le mewn etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jenny Randerson
Ysgrifennydd y Cynulliad dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
15 Awst 2001