
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (Cychwyn) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001.
2 

(1) Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) i rym yw 26 Awst 2001.
(2) Dyma'r darpariaethau—
(a) Adran 1 (cymhwyso Rhan 5 o Ddeddf Safonau Gofal 2000);
(b) Adran 2 (prif nod y Comisiynydd);
(c) Adran 3 (adolygu arfer swyddogaethau'r Cynulliad a swyddogaethau personau eraill);
(ch) Adran 4 (adolygu a monitro trefniadau);
(d) Adran 5 (pŵer ychwanegol i ystyried a gwneud sylwadau);
(dd) Adran 6 (swyddogaethau pellach y Comisiynydd);
(e) Adran 7 (darpariaethau canlyniadol etc.);
(f) Adran 8 (darpariaethau ariannol); ac
(ff) Yr Atodlen (personau a threfniadau sy'n destun adolygiad).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Prif weinidog y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Gorffennaf 2001