
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
2 

(1) 26 Awst 2001 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) i rym mewn perthynas â Chymru.
(2) Dyma'r darpariaethau—
(a) Adran 72A (prif nod y Comisiynydd);
(b) Adran 72B (adolygu arfer swyddogaethau gan y Cynulliad a chan bersonau eraill);
(c) Adran 73 (adolygu a monitro trefniadau);
(ch) Adran 74 (archwilio achosion);
(d) Adran 75 (rhwystro etc.);
(dd) Adran 75A (pŵer ychwanegol i ystyried a chynrychioli);
(e) Adran 76 (swyddogaethau pellach);
(f) Adran 77 (cyfyngiadau);
(ff) Adran 78 (dehongli);
(g) Atodlen 2A (personau sy'n destun adolygiad gan y Comisiynydd o dan Adran 72B);
(ng) Atodlen 2B (personau y mae eu trefniadau'n destun adolygiad gan y Comisiynydd o dan Adran 73)
(h) Paragraff 3 o Atodlen 5 (darpariaethau trosiannol ac eithriadau) ac adran 117(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Gorffennaf 2001