
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn Rheoliad 17, ym mharagraff (2), yn lle “£30.39” rhowch “£31.39”.
(3) Yn Rheoliad 18,
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£30.39” rhowch “£31.39”;
(b) ym mharagraff (2),
(i) yn is-baragraff (a) yn lle “£27.65” rhowch “£28.81”; a
(ii) yn is-baragraffau (b) ac (c), yn lle “£55.31” rhowch “£57.63.”.
3 
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2000 wedi'u diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Gorffennaf 2001