
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2001 neu wedyn.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau)1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle “£11,718” rhoddir “£11,952”.
(3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhoddir—“
(a) £73 where the relevant income does not exceed £11,116; and
(b) £38 where that income exceeds £11,116 but does not exceed £11,952.”
(4) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (3), yn lle “£10,914” rhoddir “£11,129”; a
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn lle “£10,914” rhoddir “£11,129”, a
(ii) yn lle “£10,735” rhoddir “£10,950”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Gorffennaf 2001