
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru, a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru at bob diben.
2 

(1) Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Gorfennaf 2001
YR ATODLEN
Erthygl 2
RHAN I

 Adran 36.
 Adran 113.
 Adran 140 (1) a (2) a (4), (5) a (6) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
 Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 9 a bennir isod.
 Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.
 Atodlen 7.
 Yn Atodlen 9 —
 paragraff 1 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,
 paragraff 67(3),
 paragraff 82,
 paragraff 84,
 paragraff 90(5) a (6),
 paragraff 91.
 Yn Atodlen 11 diddymiadau'r canlynol i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru —
 yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn Atodlen 7, ym mharagraff 13(4) y gair “and” yn union ar ôl paragraff (b) ac ym mharagraff 13(7) y gair “or” yn union ar ôl paragraff (a) ac yn Atodlen 22, ym mharagraff 5(1) y gair “or” yn union ar ôl paragraff (a)(i).

RHAN II

 Adran 97.
