
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Awst 2001 a byddant yn gymwys i Gymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995.
3 

(1) Caiff y prif Reoliadau eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraff (2) isod.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 95/31/EC” ychwanegir y geiriau “, and by Directive 2000/51/EC insofar as it relates to E965 (ii) syrup maltitol ” ar y diwedd.
4 

(1) I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth a bennir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) 1999 yn gymwys i Gymru, bydd effaith paragraff 3(1) o'r rheoliad hwnnw yn peidio mewn perthynas â'r ddarpariaeth honno.
(2) Yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at y prif Reoliadau fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y maent wedi'u diwygio hyd at a chan gynnwys y diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn.
(3) Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (2) uchod yn cyfeirio atynt —
(a) diffiniad “permitted sweetener” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1991;
(b) diffiniad “additive” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984;
(c) diffiniad “sweetener” yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992;
(ch) diffiniad “sweetener” yn rheoliad 2(1) (dehnogli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995; a
(d) Rheoliadau Labelu Bwyd 1996—
(i) paragraff (1) o reoliad 34 (bwydydd sy'n cynnwys melysyddion, siwgr ychwanegol a melysyddion, aspartame neu bolyolau); a
(ii) yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol) Rhan I (cyffredinol), yr amod yng ngholofn 2 gyferbyn â'r disgrifiad “ice cream” yng ngholofn 1.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Gorffennaf 2001