
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Cartrefi Cofrestredig 1984;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2 

(1) At ddibenion galluogi ceisiadau am gofrestru i gael eu gwneud o dan adran 23(3) o Ddeddf 1984 (cofrestru cartrefi nyrsio) yn unig, 31 Gorffennaf 2001 yw'r diwrnod penodedig i adran 39 o Ddeddf 2000 (estyn ystyr cartref nyrsio dros dro) ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
(2) 31 Awst 2001 yw'r diwrnod penodedig i weddill adran 39 o Ddeddf 2000 ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
3 

(1) Os oes person (“y ceisydd”) wedi gwneud cais yn briodol cyn 31 Awst 2001 o dan adran 23(3) o Ddeddf 1984 mewn perthynas â safle yng Nghymru sy'n dod o fewn y disgrifiad yn adran 21(3B) o Ddeddf 1984 (ystyr cartref nyrsio) bydd paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys.
(2) Ni fydd adran 23(1) o Ddeddf 1984 (tramgwydd rhedeg cartref nyrsio heb ei gofrestru) yn gymwys i'r ceisydd—
(a) nes yr amser y caniateir y cais, neu
(b) os caiff y cais ei wrthod—
(i) os na ddygir apêl, nes bod 28 diwrnod wedi dod i ben ar ôl i benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol gael ei gyflwyno); neu
(ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Gorffennaf 2001