
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2001 a daw i rym ar 1 Awst 2001.
2 
Mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn erthygl 3(2), ar ôl “Gorchymyn hwn”, mewnosodir—“am unrhyw gyfnod (os o gwbl) a bennir yn y Rhan honno ac”; a
(b) yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl paragraff 23, mewnosodir—“
23A 
Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd am y tro mewn grym, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.
23B 
Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr, am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y rhoddwyd y cerydd.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis. Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2001