
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd 1995 (Cychwyn a Darpariaeth Arbed Tir Halogedig) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
 ystyr “Deddf 1990 ” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
 ystyr “Deddf 1995 ” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995;
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at adran neu Atodlen a rifwyd yn gyfeiriad at yr adran neu Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Neddf 1995 onibai bod datganiad pendant i'r gwrthwyneb.
(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
—Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bydd darpariaethau canlynol Deddf 1995 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001:—
(a) adran 57;
(b) adran 120(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 79, 89, 91 a 92 o Atodlen 22; ac
(c) adran 120(3) i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adrannau 61 a 143 o Ddeddf 1990 yn Atodlen 24.
3 
Os oes, cyn 1 Gorffennaf 2001,—
(a) hysbysiad atal niwsans wedi'i gyflwyno o dan adran 80(1) o Ddeddf 1990; neu
(b) cŵ yn wedi'i chyflwyno i lys ynadon o dan adran 82(1) o Ddeddf 1990 neu os oes gorchymyn wedi'i wneud o dan adran 82(2) o'r Ddeddf honno,cyn 1 Gorffennaf 2001, bydd yr hysbysiad, y gŵ yn neu'r gorchymyn ac unrhyw achos sy'n dilyn yn eu sgil yn parhau'n effeithiol er gwaethaf y diwygiadau a wnaed i adran 79 o Ddeddf 1990 gan baragraff 89 o Atodlen 22 i Ddeddf 1995.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mehefin 2001