
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “athro neu athrawes” (“teacher”) yw person a gyflogir fel athro neu athrawes gan Awdurdod Addysg Lleol;
 ystyr “awdurdod tân” (“fire authority”) yw awdurdod sydd am y tro wedi'i gyfansoddi'n awdurdod tân o dan y Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 neu unrhyw gynllun cyfuno a wnaed odani;
 ystyr “diffoddwr tân” (“firefighter”) yw person sy'n aelod o frigâd dân a gynhelir gan awdurdod tân ac sydd â thelerau gwaith sy'n cynnwys rhwymedigaeth i fynd i'r afael ag ymladd tanau o fewn ystyr adran 38(1) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
3 
Mae'r disgrifiadau canlynol o gyflogeion yn cael eu pennu at dibenion adran 82(8) o'r Ddeddf —
(a) diffoddwr tân, a
(b) athro neu athrawes.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001