
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Gweithrediaeth) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw pob cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru ac eithrio cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol y mae adran 31 o'r Ddeddf yn gymwys iddo ac sydd wedi penderfynu llunio cynigion ar gyfer trefniadau eraill o dan adran 31(4)(a) o'r Ddeddf; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
3 
Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag adran 25 o'r Ddeddf erbyn 31 Ionawr 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y CynulliadCenedlaethol
21 Mehefin 2001