
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Deddf 1974” (“the 1974 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1974;
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
(4) Onid yw'n ymddangos bod yna fwriad i'r gwrthwyneb, bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr ystyr a roddir iddynt yn Neddf 1974 neu yn Neddf 2000 (yn ôl fel y digwydd).
2 
At ddibenion adran 23(11) o Ddeddf 1974, bydd swyddogaethau Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 1974 yn cynnwys swyddogaethau'r Comisiynydd o dan Ran III o Ddeddf 2000.
3 
At ddibenion adrannau 23(12), (12A), (12B) a (13), a 23A o Ddeddf 1974 ac Atoden 4 iddi, bydd swyddogaethau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru yn cynnwys ei swyddogaethau o dan Ran III o Ddeddf 2000.
4 
At ddibenion paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 1974, bydd treuliau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 1974 yn cynnwys treuliau'r Comisiwn, neu dreuliau Comisiynydd Lleol yng Nghymru, o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001