
1 
Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Rhestr Ardrethhu Canolog (Cymru) 1999 fel a ganlyn.
(2) Ar ôl Rheoliad 5 mewnosodwch—“
5A 

(1) Trinnir hereditamentau (heblaw hereditamentau a eithrir) a feddiennir, neu os nas meddiennir hwy a berchnogir, gan berson a ddynodwyd drwy ei enwi yn Rhan 3A o'r Atodlen ac sy'n cael eu defnyddio, neu a fyddai'n cael eu defnyddio pe baent wedi'u meddiannu, yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion y person hwnnw wrth weithredu fel cludwr nwy cyhoeddus ac a fyddai, heblaw am y Rheoliad hwn, yn fwy nag un hereditament, fel un hereditament.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) ystyr “hereditament a eithrir” yw hereditament sy'n cynnwys safle a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn safle swyddfa lle nad yw'r safle hwnnw wedi'i leoli ar dir gweithredol y person dynodedig, neu a ffurfir gan safle felly; a
(b) mae i “cludwr nwy cyhoeddus” yr un ystyr â “public gas transporter” yn Rhan I o Ddeddf Nwy 1986. 
(3) Trinnir yr hereditament a ddisgrifir ym mharagraff (1) fel pe bai wedi'i feddiannu gan y person dynodedig.”
(3) Yn yr Atodlen, ar ôl Rhan 3, mewnosodwch—“
Rhan 3A

 Person dynodedigBritish Gas Connections LimitedTotalFinaElf Pipelines LimitedThe Gas Transportation Company LimitedSSE Pipelines LimitedScottishPower Gas LimitedEast Midlands Pipelines LimitedGTC Pipelines LimitedEnergi Link LimitedHyder Gas Networks LimitedE.S. Pipelines Limited
 Hereditamentau perthnasolYr hereditamentau a ddisgrifir yn Rheoliad 5A.
”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2001