
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant Anabl (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Yn achos taliad uniongyrchol sy'n cael ei roi i berson sy'n dod o fewn adran 17A(2)(a) o'r Ddeddf, mae'r personau canlynol o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 17A(3) o'r Ddeddf—
(a) priod y talai;
(b) person sy'n byw gyda'r talai fel priod i'r talai;
(c) person yn byw ar yr un aelwyd â'r talai sydd—
(i) yn rhiant neu'n rhiant-yng-nghyfraith;
(ii) yn fab neu'n ferch;
(iii) yn fab-yng-nghyfraith neu'n ferch-yng-nghyfraith;
(iv) yn llysfab neu'n llysferch;
(v) yn frawd neu'n chwaer;
(vi) yn fodryb neu'n ewythr; neu
(vii) yn nain neu'n daid;
i'r talai;
(ch) priod unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r talai; a
(d) person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel priod i'r person hwnnw.
(2) Yn achos taliad uniongyrchol sy'n cael ei roi i berson sy'n dod o fewn adran 17A(2)(b) o'r Ddeddf, mae'r personau canlynol o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 17A(3) o'r Ddeddf—
(a) priod y talai;
(b) person sy'n byw gyda'r talai fel priod i'r talai;
(c) person yn byw ar yr un aelwyd â'r talai sydd—
(i) yn rhiant neu'n rhiant-yng-nghyfraith;
(ii) yn frawd neu'n chwaer;
(iii) yn fodryb neu'n ewythr;
(iv) yn nain neu'n daid;
i'r talai;
(ch) priod unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r talai; a
(d) person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel priod i'r person hwnnw.
3 
Ni fydd y pŵ er i wneud taliad o dan adran 17A(1) o'r Ddeddf yn arferadwy mewn perthynas â darparu llety preswyl ar gyfer unrhyw blentyn anabl—
(a) am gyfnod o fwy nag 28 diwrnod; a
(b) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis am gyfnodau sy'n gyfanswm o fwy na 120 o ddyddiau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001