
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
1 Hydref 2001 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfodiad i rym adrannau 1 i 3, 4 (ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2) o adran 24C o Ddeddf Plant 1989 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol), 5 a 7(1) i (4) o'r Ddeddf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001