
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
2 
Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o'r Tabl a gynhwysir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Gorffennaf 2001, ond lle mae dibenion penodol yn cael eu pennu mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth yng ngholofn 2 o'r Tabl, dim ond at y dibenion hynny y daw'r ddarpariaeth i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001
YR ATODLEN
Erthygl 2(1)

Y Tabl
Colofn 1 – y ddarpariaeth yn y Ddeddf Colofn 2– at ba ddiben y mae'r ddarpariaeth i ddod i rym
Adrannau 1 (Cartrefi plant), 2 (Ysbytai annibynnol etc.), 3 (Cartrefi gofal), 4 (Diffiniadau sylfaenol eraill), 5 (Yr awdurdodau cofrestru), a 7(7) (Dyletswyddau cyffredinol y Comisiwn). 
Adran 8 (Swyddogaethau cyffredinol y Cynulliad). Er mwyn galluogi is ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odani.
Adran 9(3)–(5) (Gweithio ar y cyd). 
Adrannau 11 (Y gofyniad i gofrestru), 12 (Ceisiadau am gofrestru), 14 (Dileu cofrestriadau), 15 (Ceisiadau gan bersonau cofrestredig). Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odanynt.
Adrannau 16 (Rheoliadau ynghylch cofrestru), 22 (Rheoli sefydliadau ac asiantaethau), 23 (Y safonau cenedlaethol gofynnol), 25 Torri rheoliadau, 33 (Ffurflenni blynyddol), 34 (Datodwyr etc) a 35 (Marwolaeth person cofrestredig). 
Adran 36 (Darparu copïau o gofrestrau). Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odani.
Adrannau 38 (Trosglwyddo staff o dan Ran II), 42 (Y pŵer i estyn cymhwysiad Rhan II), 43 (Rhagarweiniol), 48 (Rheoli gwaith arfer swyddogaethau maethu perthnasol), 49 (Y safonau cenedlaethol gofynnol), 50 (Ffurflenni blynyddol), 51 (Ffi flynyddol), 52 (Torri rheoliadau). 
Adran 79(1) (Diwygio Deddf Plant 1989 (p.41)). Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan ddarpariaeth sy'n cael ei mewnosod ganddi yn Neddf Plant 1989.
Adran 79(1). Er mwyn mewnosod y darpariaethau canlynol yn Neddf Plant 1989; adran 79B(2) (Diffiniadau eraill etc); ac adran 79B(9) (sy'n cyflwyno Atodlen 9A i Ddeddf Plant 1989), ond dim ond i'r graddau y mae'n angenrheidiol er mwyn galluogi is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan Atodlen 9A i Ddeddf Plant 1989 (sy'n cael ei mewnosod gan Atodlen 3 i'r Ddeddf).
Adran 79(2) (sy'n cyflwyno Atodlen 3 i'r Ddeddf). Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan ddarpariaeth sy'n cael ei mewnosod yn Neddf Plant 1989 gan Atodlen 3 i'r Ddeddf .
Adrannau 79(3) a (4) “(cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff)”, 107 (Ysgolion preswyl: y safonau cenedlaethol gofynnol), 108 (Ffi flynyddol am arolygiadau ysgolion preswyl), 112 (Y taliadau sy'n cael eu codi am wasanaethau lles awdurdodau lleol), 114 (Cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff) a 115 (Effaith y cynlluniau). 
Adran 116 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) (sy'n cyflwyno Atodlen 4 i'r Ddeddf). Er mwyn dod â'r darpariaethau yn Atodlen 4 a bennir isod i rym.
Adran 117(1) (Darpariaethau trosiannol, eithriadau a diddymiadau) (sy'n cyflwyno Atodlen 5 i'r Ddeddf). Er mwyn dod â'r darpariaethau yn 5 a bennir isod i rym.
Atodlen 3. Er mwyn galluogi is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan ddarpariaeth a fewnosodwyd ganddi yn Neddf Plant 1989.
Paragraff 5(6) o Atodlen 4 (sy'n diwygio Deddf Mabwysiadu 1976). 
Paragraff 1 o Atodlen 5. 
Paragraff 2 o Atodlen 5. Er mwyn galluogi is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odano.