
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mai 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
1 

(1) Caiff Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992  eu diwygio yn unol â'r paragraff canlynol yn y Rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 10 (cyffuriau a sylweddau eraill nad ydynt i gael eu rhagnodi i'w cyflenwi o dan wasanaethau fferyllol), hepgorir y cofnodion canlynol—“Nicabate Nicotine Transdermal PatchNico PatchNicodex PatchNiconil Transdermal PatchNicoretteNicorette Nasal SprayNicorette PatchNicorette PlusNicostop PatchNicotine Patch (QHR Limited)Nicotinell GumNicotinell TTS Patches”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Ebrill 2001