
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.
2 
Diwygir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru —
(a) drwy fewnosod, ar ddiwedd y diffiniad o “the Directive” ym mharagraff (2) o reoliad 1 (teitl, cychwyn a dehongli), y geiriau “and by Commission Directive 1999/39/EC”); a
(b) yn rheoliad 5 (cynhyrchiad a chyfansoddiad bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd ar gyfer babanod) —
(i) drwy ddileu'r gair “or” ar ddiwedd paragraff (c)(ii); a
(ii) drwy fewnosod, ar ddiwedd paragraff (d), y gair “or” a'i ddilyn gan y paragraff canlynol:“
(e) which —
(i) if it is manufactured as ready for consumption, contains, and
(ii) if it is not so manufactured, would if reconstituted according to its manufacturer’s instructions contain,
residues of any individual pesticide at a level exceeding 0.01mg/kg.”.
Llofnodwyd ar ran Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mai 2001