
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, y swyddogaethau canlynol yw swyddogaethau rhagnodedig Awdurdodau Iechyd yng Nghymru at ddibenion adran 28BB o'r Ddeddf (pŵ er yr awdurdodau lleol i wneud taliadau i gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol )—
(a) swyddogaethau darparu, neu gwneud trefniadau ar gyfer darparu, gwasanaethau—
(i) o dan adrannau 2 a 3(1) o'r Ddeddf, gan gynnwys yn benodol wasanaethau adsefydlu a gwasanaethau y bwriedir iddynt osgoi derbyniadau i'r ysbyty, a
(ii) o dan adran 5(1), (1A) ac (1B) o'r Ddeddf, ac Atodlen 1 iddi; a
(b) unrhyw swyddogaeth o dan adrannau 25A i 25H a 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
(2) Mae unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â'r canlynol yn cael eu hepgor o'r swyddogaethau sy'n cael eu rhagnodi o dan baragraff (1) uchod—
(a) darparu llawfeddygaeth, radiotherapi, erthylu, endosgopi, defnyddio triniaethau laser Dosbarth 4 a thriniaethau trychiadol eraill;
(b) gwasanaethau ambiwlans argyfwng;
(c) darparu cyffuriau a sylweddau eraill sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 10 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992) neu sydd wedi'u rhestru yng ngholofn 1 o Atodlen 11 i'r Rheoliadau hynny, fel y mae'r Atodlenni hynny'n gymwys yng Nghymru ac, o ran Atodlen 11, o dan amgylchiadau lle nad yw'r amodau a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno wedi'u bodloni; ac
(ch) darparu cyfarpar nad yw wedi'i restru yn Rhan IX o'r datganiad a elwir “the Drug Tariff” a gyhoeddir ac a ddiwygir o dro i dro o dan reoliad 18(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 fel y mae'r datganiad yn gymwys yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis Thomas
29 Mawrth 2001