
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
 ystyr “Deddf 1980” (“the 1980 Act”) yw Deddf Priffyrdd 1980;
 ystyr “Deddf 1981” (“the 1981 Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ac oni bai fod yna ddatganiad gwahanol mae cyfeiriadau at adrannau, Rhannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau a Rhannau o'r Ddeddf, ac Atodlenni iddi;
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
Mai 2001 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym:—
(a) adran 46(1)(b) (diddymu adrannau 61 i 63 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949);
(b) adran 46(3) (sy'n cyflwyno Atodlen 4) i'r graddau y mae'n perthyn i ddarpariaethau Atodlen 4 y cyfeirir atynt yn is-baragraff (g) isod;
(c) adran 57 (diwygiadau i Ddeddf 1980 ac i Ddeddfau eraill) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r amnewidiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (ng) ac (h) isod;
(ch) adran 68 (mynediad cerbydau ar draws tir comin);
(d) adran 70(2) a (4) (mân ddiwygiadau);
(dd) adran 72 (darpariaethau dehongli Rhan II);
(e) Rhan IV (dynodi a rheoli ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol)(ac felly Atodlenni 13, 14 a 15);
(f) adran 96 (diwygiadau i adran 39 o Ddeddf 1981);
(ff) adran 102 i'r graddau y mae'n perthyn i'r darpariaethau yn Atodlen 16 y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (o) isod ;
(g) paragraffau 1, 4, 5 a 6 o Atodlen 4;
(ng) paragraff 18(a) o Atodlen 6 (diwygiadau i Ddeddf 1980) i'r graddau y mae'n amnewid am “118, 119,” yn adran 325(1)(d) o Ddeddf 1980 gyfeiriadau at adrannau 118, 118A, 119 a 119A;
(h) paragraff 19 o Atodlen 6 i'r graddau y mae'n amnewid am “gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus” yn adran 326(5) o Ddeddf 1980 gyfeiriadau at orchymyn diddymu croesfan reilffordd, gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus a gorchymyn gwyro croesfan reilffordd;
(i) Rhan I o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i fynediad i gefn gwlad) ac eithrio i'r graddau y mae'n diddymu:
(i) adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925;
(ii) paragraff 35A o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972; a
(iii) paragraff 13 o Atodlen 6 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994;
(l) Rhan II o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i hawliau tramwy cyhoeddus a thraffig ffyrdd) i'r graddau y mae'n diddymu adran 22(1)(a) o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 );
(m) Rhan II o Atodlen 16 i'r graddau y mae'n diddymu adran 134(5) o Ddeddf 1980;
(n) Rhannau III a IV o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a bywyd gwyllt); ac
(o) Rhannau V a VI o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac i Ddeddf 1981).
3 
Nid yw diddymiad adran 134(5) o Ddeddf 1980 sy'n cael ei gychwyn gan erthygl 2(d) ac (m) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd o dan adran 134 o'r Ddeddf honno a gyflawnwyd cyn 1 Mai 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Ebrill 2001