
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
 ystyr “cartref bach i blant” (“small children’s home”) yw cartref o fewn ystyr adran 63 o Ddeddf 1989, sy'n darparu (neu sydd fel arfer yn darparu neu y bwriedir iddo ddarparu) gofal a llety i nifer nad yw'n fwy na thri o blant ar unrhyw un adeg;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) At ddibenion galluogi cais cofrestru i gael ei wneud o dan is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn unig, 1 Chwefror 2001 yw'r dydd a benodir i adran 40 o'r Ddeddf (ymestyn dros dro ystyr “cartref plant”) ddod i rym.
(2) 28 Chwefror 2001 yw'r dydd a benodir i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym —
(a) adran 40 i'r graddau nad yw mewn grym eisoes, ac adran 41 (darpariaeth dros dro ynghylch dileu cofrestriad); a
(b) adran 116 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), i'r graddau y mae'n berthnasol i is-baragraff (15) o baragraff 14 o Atodlen 4 i'r Ddeddf.
3 

(1) Os yw person sy'n rhedeg cartref bach i blant wedi gwneud cais cofrestru yn briodol cyn 28 Chwefror 2001 o dan is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989, bydd paragraffau canlynol yr erthygl hon yn gymwys.
(2) Ni fydd adran 63(1) a (10) o Ddeddf 1989 yn gymwys i'r person hwnnw—
(a) nes yr adeg y caniateir y cais, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i'r amodau hynny a grybwyllir ym mharagraff (3); neu
(b) os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau heblaw rheini a grybwyllir ym mharagraff (3), neu os gwrthodir y cais—
(i) os na ddygir apêl, hyd nes y daw 28 diwrnod i ben ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod lleol; a
(ii) os dygir apêl, hyd nes y penderfynir arni neu ei gollwng.
(3) Dyma'r amodau—
(a) unrhyw amodau (os oes rhai) o'r math a grybwyllir ym mharagraff 5(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 (amodau y cytunwyd arnynt); neu
(b) amod na chaiff y cartref letya a gofalu am fwy na thri o blant.
(4) Ni fydd paragraffau 1(9) a 7(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn gymwys i'r cais.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Ionawr 2001