
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall —
 ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997;
 ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 1986.
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster - cyflenwi cyfarpar optegol), ym mharagraffau (3)(c) (derbyn credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (g) (credyd treth pobl anabl), yn lle “£70” rhowch “£71”.
3 
Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) —
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£42.80” rhowch “£43.90”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “£11.00” rhowch “£11.30”.
4 

(1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau talebau a'u gwerth ar yr wyneb - cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) (gwerth y daleb ar ei hwyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhowch y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.

(1) (2)
Yr hen swm Y swm newydd
£ 29.30 £ 30.00
£ 44.50 £ 45.60
£ 60.60 £ 62.10
£ 136.90 £ 140.30
£ 50.50 £ 51.80
£ 64.30 £ 65.90
£ 77.30 £ 79.60
£ 150.50 (Yn y ddau fan lley'i gwelir) £ 154.30
£ 42.80 £ 43.90
 Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, tintiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach ac arbennig a chyfarpar cymhleth)—
(a) ym mharagraff 1(1)(a) (prism - lens golwg sengl), yn lle “£6.10” rhowch “£6.30”;
(b) ym mharagraff 1(1)(b) (prism -lens arall), yn lle “£7.00” rhowch “£7.20”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg sengl â thint), yn lle “£3.10” rhowch “£3.20”;
(ch) ym mharagraff 1(1)(d) (lens arall â thint), yn lle “£3.60” rhowch “£3.70”;
(d) ym mharagraff 1(1)(e) (sbectolau bach), yn lle “£48.20” rhowch “£49.40”, ac yn lle “£42.80” rhowch “£43.90”, ac yn lle “£23.20” rhowch “£23.80”;
(dd) ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau wedi'u gweithgynhyrchu'n arbennig) yn lle “£48.20” rhowch “£49.40”;
(e) ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth - lensys golwg sengl), yn lle “£10.20” rhowch “£10.50”.
(h) ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth - lensys eraill), yn lle “£25.90” rhowch “£26.50”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
5 
Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (Profion Golwg - cymhwyster), ym mharagraffau (2)(c) (derbyn credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (2)(g) (derbyn credyd treth pobl anabl), yn lle “£70” rhowch “£71”.
6 

(1) Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 5 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â dyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl sy'n cael eu gwneud ar neu ar ôl 10 Ebrill 2001 yn unig.
(2) Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 a 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliadau 12 neu 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 10 Ebrill 2001 yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001
ATODLEN
Rheoliad 3(3)

SCHEDULE 3
Regulations 19(2) and (3)

(1) (2)
Nature of repair Letter Codes - Values
 A B C D E F G H&I
 £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 9.35 17.15 25.40 64.50 20.25 27.30 34.15 71.50
Repair or replacement of two lenses 18.70 34.30 50.80 129.00 40.50 54.60 68.30 143.00
Repair or replacement of the front of a frame: 9.60 9.60 9.60 9.60 9.60 9.60 9.60 9.60
the side of a frame 5.70 5.70 5.70 5.70 5.70 5.70 5.70 5.70
the whole frame 11.30 11.30 11.30 11.30 11.30 11.30 11.30 11.30