
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Tâl Cosb) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977; ac
 mae i “gordal” (“surcharge”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4.
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Os bydd person yn methu â thalu unrhyw swm y cyfeirir ato yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf, caiff yr awdurdod cyfrifol gyflwyno hysbysiad cosb yn ei gwneud yn ofynnol, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau ar ddyddiad anfon yr hysbysiad cosb, i'r person dalu'r swm hwn i'r awdurdod cyfrifol ynghyd â thâl cosb y penderfynir arno yn unol â rheoliad 3.
(2) Rhaid i hysbysiad cosb gael ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.
(3) Rhaid i'r hysbysiad cosb ddatgan—
(a) enw'r person sy'n agored i dalu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu o dan yr hysbysiad cosb;
(b) y swm sydd i'w adennill fel y'i crybwyllir yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf;
(c) swm y tâl cosb, wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 3 a'r nwyddau neu'r gwasanaethau y mae'r swm hwnnw'n gysylltiedig â hwy;
(ch) swm y symiau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (b) ac (c), sef y cyfanswm y mae'n ofynnol ei dalu o dan yr hysbysiad cosb;
(d) mewn perthynas â'r cyfanswm y mae'n ofynnol ei dalu o dan yr hysbysiad cosb—
(i) yr awdurdod cyfrifol y mae'n rhaid talu'r swm hwnnw iddo,
(ii) y cyfeiriad y mae'n rhaid anfon y swm hwnnw iddo,
(iii) y dulliau y gellir eu defnyddio i dalu, a
(iv) yn unol â pharagraff (1), erbyn pa ddyddiad y mae'n ofynnol i'r person dalu'r swm hwnnw i'r awdurdod cyfrifol;
(dd) os yw'r person yn methu â thalu'r swm y mae'n ofynnol i'r person hwnnw ei dalu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad cosb—
(i) y bydd yn rhaid i'r person dalu gordal i'r awdurdod cyfrifol hefyd, a
(ii) swm y gordal y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei dalu, wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 4(2); ac
(e) nad yw person, oherwydd hysbysiad cosb, yn agored—
(i) i dalu, ar unrhyw adeg, gymaint o unrhyw swm y cyfeirir ato yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf y mae'r person hwnnw yn agored i'w dalu ar y cyd ac yn unigol gyda pherson arall ag sydd wedi'i dalu bryd hynny, neu y mae llys wedi gorchymyn iddo gael ei dalu, gan y person arall hwnnw, neu
(ii) i dâl cosb, neu ordal, os yw'r person hwnnw'n dangos na weithredodd ar gam, na heb unrhyw ddiffyg gofal, mewn perthynas â'r swm sydd i'w adennill fel y'i crybwyllir yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf.
3 
P'un bynnag yw'r lleiaf o'r canlynol fydd y swm cosb—
(a) £100, a
(b) y swm y cyfeirir ato yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf wedi'i luosi â 5.
4 

(1) Os bydd person yn methu â thalu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu o dan yr hysbysiad cosb yn unol â rheoliad 2(1), bydd yn agored i dalu i'r awdurdod cyfrifol swm pellach (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel “gordal”), wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).
(2) Swm y gordal fydd 50% o swm y tâl cosb (wedi'i dalgrynnu i lawr, yn ôl yr angen, i'r geiniog gyfan agosaf).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2001