
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2001/2002) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Saith y cant fydd cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 at ddibenion adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001