
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 2 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid yw'n effeithiol mewn perthynas â chais am grant cymorth trwsio cartref a wneir cyn y dyddiad y daw i rym.
2 
Mae Gorchymyn Grantiau Cyfleusteru i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996 yn cael ei ddiwygio yn unol a'r erthyglau canlynol.
3 
Yn erthygl 4—
(a) Dilëwch “Subject to article 5”;
(b) mharagraffau (a) a (b) (ii), yn lle “£2,000” rhowch “£5,000”.
4 
Mae Erthygl 5 yn cael ei ddiddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001