
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
 ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru, a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru oni nodir fel arall.
2 

(1) Daw'r darpariaethau yn Neddf 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Daw'r darpariaethau yn Neddf 2000 a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2001.
3 

(1) Yn yr erthygl hon —
 ystyr “y Cyngor newydd” (“the new Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
 ystyr “yr hen Gyngor” (“the old Council”) yw Cyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru.
(2) Heb ragfarnu paragraff 11 o Atodlen 10 i Ddeddf 2000, bydd i unrhyw beth a wnaed cyn 1 Ebrill 2001 gan yr hen Gyngor yn unol ag adran 51 o Ddeddf 1992 effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cyngor newydd.
(3) Os oes unrhyw ddarpariaeth yn offeryn neu erthyglau llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach (o fewn ystyr adran 91(3) o Ddeddf 1992) yn darparu y dylai unrhyw beth gael ei wneud yn unol â gofynion yr hen Gyngor neu y dylai gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddwyd gan yr hen Gyngor, bydd i'r ddarpariaeth honno effaith, mewn perthynas ag unrhyw ofyniad a osodir neu unrhyw gyfarwyddyd a roddir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2001 fel pe bai cyfeiriadau at yr hen Gyngor yn gyfeiriadau at y Cyngor newydd.
(4) Bydd y pwerau a geir —
(a) yn adran 496 o Ddeddf Addysg 1996 fel y'i chymhwysid at yr hen Gyngor gan adran 56(3) o Ddeddf 1992, a
(b) yn adran 57(3) a (4) o Ddeddf 1992,
yn parhau yn arferadwy mewn perthynas ag unrhyw weithred (gan gynnwys methu â gweithredu) gan yr hen Gyngor cyn 1 Ebrill 2001 ond rhaid i unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y pwerau hynny gael ei roi i'r Cyngor newydd.
4 
Ni fydd y diwygiad i adran 41(10) o Ddeddf 1992 a wnaed gan baragraff 26 o Atodlen 9 i Ddeddf 2000 yn effeithiol at ddibenion dyfarnu a gafodd unrhyw gontract a wnaed cyn 1 Ebrill 2001 ei wneud yn groes i adran 41 o Ddeddf 1992.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mawrth 2001
ATODLEN
Erthygl 2
RHAN I

 Adran 31.
 Adran 32.
 Adran 33.
 Adran 34.
 Adran 35.
 Adran 37.
 Adran 38.
 Adran 39.
 Adran 40.
 Adran 41.
 Adran 45.
 Adran 50.
 Adran 74.
 Adran 75.
 Adran 76.
 Adran 77.
 Adran 78.
 Adran 79.
 Adran 80.
 Adran 81.
 Adran 82.
 Adran 83.
 Adran 84.
 Adran 85.
 Adran 86.
 Adran 88.
 Adran 91.
 Adran 99.
 Adran 103(1), (2) a (3) i'r graddau y mae angen hynny at ddibenion adran 103(4)(b).
 Adran 103(4).
 Adran 110.
 Adran 111.
 Adran 112.
 Adran 123.
 Adran 124.
 Adran 125.
 Adran 126.
 Adran 127.
 Adran 128.
 Adran 129.
 Adran 137.
 Adran 138.
 Adran 140(3).
 Adran 140(4), (5) a (6) i'r graddau y mae eu hangen at ddibenion adran 140(3).
 Adran 142.
 Adran 143.
 Adran 144.
 Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 9 a bennir isod.
 Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.
 Yn Atodlen 9—
 paragraff 5,
 paragraff 6,
 paragraff 7,
 paragraff 8,
 paragraff 9,
 paragraff 10,
 paragraff 12,
 paragraff 13,
 paragraff 15,
 paragraff 16,
 paragraff 17,
 paragraff 20,
 paragraff 21(a),
 paragraff 22,
 paragraff 23,
 paragraff 24,
 paragraff 25,
 paragraff 26,
 paragraff 27,
 paragraff 28,
 paragraff 29,
 paragraff 30,
 paragraff 32,
 paragraff 33,
 paragraff 40,
 paragraff 44(1) a (2),
 paragraff 46,
 paragraff 51,
 paragraff 52(1) a (2),
 paragraff 53,
 paragraff 54,
 paragraff 55,
 paragraff 56,
 paragraff 59,
 paragraff 65,
 paragraff 66,
 paragraff 67 (5),
 paragraff 68,
 paragraff 72,
 paragraff 73 ,
 paragraff 74,
 paragraff 75(a) a (b), ac (c) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 34 o Ddeddf Medrau a Dysgu 2000,
 paragraff 76,
 paragraff 77,
 paragraff 78,
 paragraff 79,
 paragraff 80,
 paragraff 94.
 Yn Atodlen 11 y diddymiadau i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru —
 yn Neddf Blwydd-dâl 1972, Atodlen 1, yn y rhestr o “Other Bodies” y geiriau “Further Education Funding Council for Wales in receipt of remuneration”,
 yn Neddf Anghymhwyso o Dŷ'r Cyffredin 1975, yn Rhan III o Atodlen I y geiriau “Any member of the Further Education Funding Council for Wales in receipt of remuneration.”,
 yn Neddf Gwahaniaethau ar sail Rhyw 1975, adran 25(6)(d),
 yn Neddf Cysylltiadau Hiliol 1976, adran 19(6)(d),
 yn Neddf Diwygio Addysg 1988, yn adran 124(2)(b), y geiriau “,as defined by section 15(6) and (7) of the Education Act 1996”,
 yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adrannau 1 i 9, adran 28(2)(b), adran 32(2A), adran 44(6), adran 45(6), yn adran 52(1) y gair “full-time”, yn adran 55 is-adrannau (1) i (3) a pharagraffau (a) a (b) o is-adran (7), adran 56, ac Atodlen 2,
 yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, adran 19(6)(f) ac adran 30(2) i (4),
 yn Neddf Addysg 1996, adran 15, yn adran 509(1) paragraff (d) a'r gair “or” yn union cyn y paragraff hwnnw, a pharagraffau 70 a 112 o Atodlen 37,
 yn Neddf Addysg 1997, yn adran 30, yn is-adran (1) y geiriau “,or by subsection(3)”, ac is adran (3),
 yn Neddf y Comisiwn Archwilio 1998, yn y Tabl yn adran 36(1) y cofnod ynghylch cyngor cyllido addysg bellach, ac yn adran 36(2) y geiriau “or a further education funding council”,
 yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adran 26(1) a (2), yn niffiniad “publicly-funded institution” yn adran 28(1)(a) y geiriau “5 or” a'r geiriau o “from a further” i “its costs”, ac adran 34,
 yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraffau 41 a 42 o Atodlen 30.

RHAN II

 Adran 96.
 Adran 100(2).
 Adran 102.
 Adran 103(5).
 Adran 148.
 Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 57 o Atodlen 9.
 Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.
 Yn Atodlen 9, paragraff 57.
 Yn Atodlen 11, y diddymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru —
 yn Neddf Addysg 1996, yn adran 403(1) y geiriau “local education authority,”,
 yn Neddf Addysg 1997, adran 37(1)-(4), ac yn adran 37(5) y geiriau “, which are superseded by this section,”.
