
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “darpar fabwysiadydd” (“prospective adopter”) yw person sy'n preswylio fel arfer yn Ynysoedd Prydain sydd, ar unrhyw adeg, yn dod â phlentyn sy'n preswylio fel arfer y tu allan i'r ynysoedd hynny i mewn i'r Deyrnas Unedig er mwyn ei fabwysiadu (heblaw mabwysiadu gan riant, gwarcheidwad neu berthynas);
 mae i “panel mabwysiadu” yr un ystyr ag “adoption panel” yn Rheoliadau 1983;
 ystyr “Rheoliadau 1983” (“the 1983 Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983;
 ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor 2001.
3 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys —
(a) i awdurdod lleol y mae darpar fabwysiadydd wedi cyflwyno cais iddo am gael ei asesu yn unol â rheoliad 3(2)(a) o Reoliadau 2001; a
(b) i gymdeithas fabwysiadu a gymeradwywyd) sydd wedi cytuno i asesu darpar fabwysiadydd sydd wedi cyflwyno cais iddi yn unol â'r rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu asesu darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliadau 8 (dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd ac 8A (collfarnau troseddol darpar fabwysiadydd) o Reoliadau 1983.
(3) Rhaid i banel mabwysiadu y cyfeirir achos darpar fabwysiadydd ato ystyried yr achos a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu sy'n cyfeirio'r achos ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu, yn unol â rheoliad 10 (swyddogaethau panel mabwysiadu) o Reoliadau 1983.
(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —
(a) gwneud penderfyniad ynghylch addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu a hysbysu'r darpar fabwysiadydd am y penderfyniad, yn unol â rheoliad 11A (penderfyniadau a hysbysiadau asiantaethau mabwysiadu - darpar fabwysiadwyr) o Reoliadau 1983; a
(b) pan fydd yr asiantaeth wedi penderfynu cymeradwyo'r darpar fabwysiadydd yn un sy'n addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu, hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig am y penderfyniad hwnnw a darparu iddo —
(i) yr holl wybodaeth a ystyriwyd gan y panel mabwysiadu cyn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu; a
(ii) unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas ag achos y darpar fabwysiadydd y bydd arno ei hangen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Mawrth 2001