
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
Mae'r dosbarthiadau o leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemtio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sydd yn gwahardd gollyngiadau mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mawrth 2001
ATODLEN
Erthygl 2
Y “Beech Wood Fired Pizza Oven” sy'n cael ei chynhyrchu gan Beech Wood Fired Ovens, Brisbane, Awstralia.
1 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwydd-iadau'r gwneuthurwyr dyddiedig 3 Mawrth 2000 ac y mae arnynt y cyfeirnod “BBP236UK”
2 
Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw pren caled sych sydd heb ei drin.
Y “Morsø 3400 Owl” Cyfres GB ar gyfer llosgi pren sy'n cael ei chynhyrchu gan Morsø Jernstøberi A/S, Denmarc.
1 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwydd-iadau'r gwneuthurwyr dyddiedig 1 Ionawr 2000 ac y mae arnynt y cyfeirnod “72345600”
2 
Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw—
(a) pren sych sydd heb ei drin, ac sydd wedi ei hollti, ei stacio a'i sychu yn yr aer; neu
(b) briceti pren sydd wedi eu sychu yn yr aer.