
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993 yn cael eu diwygio yn unol â'r paragraff canlynol.
(2) Yn Rheoliad 13A) (yr amser y daw'r newid yn effeithiol: cyffredinol)—
(a) ym mharagraff (5), ar ôl “paragraphs (7),”, rhowch “(7A),” a
(b) ar ôl paragraff (7), mewnosodwch—“
(7A) For the purpose of paragraph (5), where an alteration is made in pursuance of a proposal served after 31st March 2001 but before 1st July 2001 and the circumstances giving rise to the alteration first arose after 31st December 2000 but before 1st April 2001, then the proposal shall be treated as served on 31st March 2001.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2001