
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(3) Mae Rheoliadau Addysg (Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr) 1999 wedi'u diddymu.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adroddiad llywodraethwyr” (“governors' report”) yw'r adroddiad y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei baratoi unwaith ym mhob blwyddyn o dan adran 42(1) o Ddeddf 1998;
 ystyr “cyfarfod blynyddol i'r rhieni” (“annual parents' meeting”) yw'r cyfarfod rhieni y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei gynnal unwaith ym mhob blwyddyn ysgol o dan adran 43 o Ddeddf 1998;
 ystyr “cyfran o'r gyllideb” (“budget share”) yw'r swm a ddyrennir i'r corff llywodraethu yn rhinwedd adran 47 o Ddeddf 1998;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
3 
Rhaid i bob adroddiad llywodraethwyr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mater i'r corff llywodraethu benderfynu arno yw'r iaith neu'r ieithoedd y cynhyrchir yr adroddiad llywodraethwyr ynddi neu ynddynt, a ffurf neu ffurfiau ei gynhyrchu.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol o ran unrhyw iaith ychwanegol sydd i'w defnyddio neu o ran unrhyw ffurf ychwanegol y mae'r adroddiad i gael ei gynhyrchu ynddi.
5 
Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau—
(a) bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol a phob person a gyflogir yn yr ysgol yn cael copi o adroddiad y llywodraethwyr (yn rhad ac am ddim);
(b) bod copïau o'r adroddiad ar gael i'w harchwilio (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol; ac
(c) os oes rhwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni, fod copïau o adroddiad y llywodraethwyr sydd i'w ystyried yn y cyfarfod hwnnw yn cael eu rhoi i'r rhieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.
6 

(1) Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (a) o reoliad 5, i'r graddau y mae'n ymwneud â rhieni disgyblion cofrestredig, na'r gofyniad sydd ym mharagraff (c) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys—
(a) os yw'r corff llywodraethu'n cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael copi o'r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad yn rhinwedd paragraffau 1 i 3, 5 i 7 a 10 o'r Atodlen (yn rhad ac am ddim) ac ar yr un pryd yn hysbysu'r rhieni hynny am eu hawl i gael copi o'r adroddiad llawn yn unol â rheoliad 7; a
(b) pan fydd rhwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni, os yw'r wybodaeth honno a'r hysbysiad hwnnw'n cael eu rhoi i'r rhieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.
7 
Pan nad yw paragraffau (a) ac (c) o reoliad 5 yn gymwys (yn rhinwedd rheoliad 6), rhaid i'r corff llywodraethu roi copi o'u hadroddiad llawn i unrhyw riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol pan ofynnir iddo (yn ysgrifenedig).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2001
ATODLEN
Rheoliad 3
1 
Os oes ar y corff llywodraethu rwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni,—
(a) manylion dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod blynyddol nesaf i'r rhieni a'i agenda;
(b) mynegiad mai trafod adroddiad y llywodraethwyr a hefyd y dull y cyflawnodd y corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod addysg lleol eu swyddogaethau fydd diben y cyfarfod hwnnw; ac
(c) adroddiad ar yr ystyriaeth a roddwyd i unrhyw benderfyniadau a basiwyd yn y cyfarfod blynyddol blaenorol i'r rhieni (os oedd ar y corff llywodraethu rwymedigaeth i gynnal cyfarfod o'r fath).
2 
Y manylion canlynol am aelodau'r corff llywodraethu a'u clerc—
(a) enw pob llywodraethwr gan enwi, ym mhob achos, y categori (yn unol â'r diffiniadau a gynhwysir yn Rhan I o Atodlen 9 i Ddeddf 1998) y mae'r llywodraethwr yn perthyn iddo ac, os yw'r llywodraethwr yn llywodraethwr ex officio, mai llywodraethwr o'r fath yw ef neu hi;
(b) yn achos llywodraethwr wedi'i benodi, y person a'i benododd;
(c) mewn perthynas â phob llywodraethwr nad yw'n llywodraethwr ex officio, y dyddiad y daw cyfnod ei swydd i ben; ac
(ch) enw a chyfeiriad cadeirydd y corff llywodraethu a'u clerc.
3 
Pa wybodaeth bynnag sydd ar gael i'r corff llywodraethu am y trefniadau ar gyfer etholiad nesaf y llywodraethwyr-rieni.
4 
Datganiad ariannol—
(a) sy'n atgynhyrchu neu'n crynhoi unrhyw ddatganiad ariannol y mae copi ohono wedi'i roi i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod addysg lleol o dan adran 52 o Ddeddf 1998 ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr;
(b) sy'n dangos, yn gyffredinol, sut y defnyddiwyd unrhyw swm y darparwyd ei fod ar gael i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod (gan gynnwys cyfran yr ysgol o'r gyllideb) yn y cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef;
(c) sy'n rhoi manylion sut y defnyddiwyd unrhyw roddion a gafodd yr ysgol yn y cyfnod hwnnw; ac
(ch) sy'n datgan cyfanswm unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth a dalwyd i aelodau'r corff llywodraethu yn y cyfnod hwnnw.
5 
Yr wybodaeth sy'n ymwneud ag asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gyhoeddwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 408 o Ddeddf 1996.
6 
Yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r canlynol—
(a) disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer arholiadau cyhoeddus a chyraeddiadau'r disgyblion mewn arholiadau cyhoeddus;
(b) y cymwysterau galwedigaethol a enillwyd gan y disgyblion; ac
(c) cofnodion presenoldeb y disgyblion;a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996.
7 

(1) Yr wybodaeth a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau  a wnaed o dan is-adran (7) o adran 537 o Ddeddf 1996, gan gynnwys gwybodaeth a gyhoeddwyd gan (neu o dan drefniadau a wnaed gan) y Cynulliad Cenedlaethol o dan is-adran (6) o'r adran honno.
(2) Os yw'r wybodaeth a gyhoeddir gan (neu o dan drefniadau a wnaed gan) y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 537(6) o Ddeddf 1996 yn cael ei chyhoeddi yn ei ffurf lawn ac ar ffurf gryno, rhaid cynnwys yr wybodaeth lawn yn adroddiad y llywodraethwyr.
8 
Yr wybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu'r gyflogaeth neu'r hyfforddiant y mae disgyblion yn dechrau arnynt wrth ymadael â'r ysgol, a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996.
9 
Y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau'r ysgol â'r gymuned (gan gynnwys cysylltiadau â'r heddlu).
10 
Pa wybodaeth bynnag ynghylch unrhyw dargedau—
(a) ar gyfer gwelliannau a osodwyd gan y corff llywodraethu ynghylch perfformiad disgyblion yn yr ysgol y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1997); a
(b) ar gyfer gostwng lefel absenoldebau diawdurdod ar ran disgyblion dyddiol perthnasol yn yr ysgol a osodwyd gan y corff llywodraethu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 63 o Ddeddf 1998.
11 
Mynegiad o'r canlynol mewn perthynas â'r cyfnod ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr—
(a) i ba raddau y cafodd nodau'r corff llywodraethu ynghylch chwaraeon yn yr ysgol eu cyrraedd; a
(b) unrhyw lwyddiannau nodedig mewn chwaraeon gan dimau'r ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw.
12 
Crynodeb o unrhyw adolygiad a gynhaliwyd gan y corff llywodraethu o ran unrhyw bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd ganddynt wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol ac unrhyw gamau a gymerwyd ganddynt yn dilyn adolygiad o'r fath.
13 
Dyddiadau dechrau a diwedd pob tymor ysgol, a dyddiadau'r gwyliau hanner tymor, am y flwyddyn ysgol nesaf.
14 

(1) Crynodeb o unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sy'n cael ei chynnwys (yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996 neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998) yn llawlyfr yr ysgol ers i adroddiad blaenorol y llywodraethwyr gael ei baratoi.
(2) Pan fydd y Rheoliadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi gwybodaeth wahanol mewn llawlyfrau gwahanol, rhaid cymryd bod is-baragraff (1) yn cyfeirio at bob llawlyfr o'r fath.