
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth) 1974.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Diwygir rheoliad 3 o'r prif Reoliadau (cyflogi swyddogion) fel a ganlyn:
(2) Ym mharagraff (1), yn lle “radiographer or remedial gymnast” rhoddir “or radiographer”.
(3) Ar ôl paragraff (1), mewnosodir y paragraff canlynol —“
(1A) No person shall be employed as an officer of an authority to which this regulation applies, in the capacity of prosthetist and orthotist or arts therapist unless —
(a) that person is registered in respect of that profession; or
(b) that person has never been registered as a prosthetist and orthotist or arts therapist, but who, immediately before 1 April 2001, was employed in that capacity by an authority, in England or Wales, to which this regulation applies.”.
(4) Yn lle paragraff (2) rhoddir —“
(2) The authorities to which this regulation applies are —
(a) Health Authorities;
(b) Special Health Authorities.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2001