
1 
–
(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
(3) Mae'r Rheoliadu hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
2 
Ym mharagraff (2) o reoliad 1 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn y diffiniad o “NHS sight test fee”, yn lle'r swm “£40.33” amnewidier “£41.54” ac yn lle'r swm “£14.57” amnewidier “£15.01”.
3 
Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 15 o'r prif Reoliadau (cymhwyster – ailosod neu drwsio), ar ôl “regulation 8(2)” mewnosoder “(b)”.
4 
Yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)–
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£42.00” amnewidier “£42.80”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “£10.80”, amnewidier “£11.00”.
5 
–
(1) Yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb – cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) (gwerth taleb ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod amnewidier y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw

(1) (2)
Hen swm Swm newydd
£ 28.70 £ 29.30
£ 43.60 £ 44.50
£ 59.40 £ 60.60
£ 134.20 £ 136.90
£ 49.50 £ 50.50
£ 63.00 £ 64.30
£ 75.80 £ 77.30
£ 147.50 (yn y ddau fan lle mae'n ymddangos) £ 150.50
£ 42.00 £ 42.80
(2) Yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol bach ac arbennig a theclynnau cymhleth)–
(a) ym mharagraff 1(1)(a) (prism – lens golwg unigol), yn lle “£6.00” amnewidier “£6.10”;
(b) ym mharagraff 1(1)(b) (prism – lens arall), yn lle “£6.90” amnewidier “£7.00”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c) (lens arlliw golwg unigol), yn lle “£3.00” amnewidier “£3.10”;
(ch) ym mharagraff 1(1)(d) (lens arlliw arall), yn lle “£3.50” amnewidier “£3.60”;
(d) ym mharagraff 1(1)(e) (sbectol bach), yn lle “£47.30” amnewidier “£48.20”, yn lle “£42.00” amnewidier “£42.80”, ac yn lle “£22.70” amnewidier “£23.20”;
(dd) ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau a weithgynhyrchwyd yn arbennig), yn lle “£47.30” amnewidier “£48.20”;
(e) ym mharagraff 2 (a) (isafswm taliad am declyn cymhleth-lensys golwg unigol), yn lle “£10.00” amnewidier “£10.20”;
(f) ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad am declyn cymhleth-lensys eraill), yn lle “£25.40” amnewidier “£25.90”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (gwerthoedd talebau – trwsio), amnewidier yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
6 
Dim ond mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r prif Reoliadau ar 1 Ebrill 2000 neu wedyn y mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaetho
27 Mawrth 2000
ATODLEN
Rheoliad 5(3)

“
ATODLEN 3
Rheoliadau 19(2) a (3)


Natur y Trwsio Codau'r Llythrennau – Gwerthoedd
(1) (2)
 A B C D E F G H & I
 £ £ £ £ £ £ £ £
Trwsio neu ailosod un lens 9.10 16.70 24.80 63.00 19.80 26.50 33.20 69.80
Trwsio neu ailosod dwy lens 18.40 33.60 49.70 125.90 39.60 53.10 66.40 139.50
Trwsio neu ailosod:
blaen ffrâm 9.40 9.40 9.40 9.40 9.40 9.40 9.40 9.40
ochr ffrâm 5.60 5.60 5.60 5.60 5.60 5.60 5.60 5.60
ffrâm gyfan 11.00 11.00 11.00 11.00 11.00 11.00 11.00 11.00”
