
1 
–
(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) (Diwygio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 31 Mawrth 2000
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2 
Yn erthygl 2 o Orchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) 1991 (“Gorchymyn 1991”) , yn y diffiniad o “relevant year”, ar ôl “subsequent financial year” ychwaneger “until, and including, the financial year beginning in 1999”.
3 
Ym mharagraff (2) o erthygl 3 o Orchymyn 1991, ar ôl “as mentioned in paragraph (1),” ychwaneger “and on or before 31st March 2001.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Mawrth 2000