
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Pencoed (Diddymu) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
2 
Ar 1 Ebrill 2000 diddymir y Trosglwyddwr a throsglwyddir ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Trosglwyddai, sydd yn gorfforaeth gorfforedig a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysg.
3 
Bydd adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogid gan y Trosglwyddwr yn union cyn 1 Ebrill 2000 fel petai'r cyfeiriadau yn yr adran honno —
(a) at berson y mae'r adran honno'n gymwys iddo yn gyfeiriad at berson a gyflogid felly;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriad at 1 Ebrill 2000;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriad at y Trosglwyddwr; ac
(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriad at y Trosglwyddai.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
T Middlehurst
Ysgrifennydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-16, y Cynulliad
27 Mawrth 2000