
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
2 
7.5 y cant fydd cyfradd ganrannol y gostyngiad a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 at ddibenion diffinio “r” yn adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2000