
1 

(1)  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Railtrack plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “amcangyfrif o hyd y trac perthnasol” (“estimated relevant track length”) yw hyd y trac, wedi'i fynegi mewn cilometrau, yr amcangyfrifir y caiff ei gynnwys yn rheilffyrdd Railtrack;
 ystyr “blwyddyn” (“year”) yw blwyddyn ariannol daladwy;
 ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w benderfynu ar ei chyfer yn unol â'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “blwyddyn flaenorol berthnasol” (“relevant preceding year”) yw'r flwyddyn sy'n dod cyn blwyddyn berthnasol;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 ystyr “hereditament perthnasol” (“relevant hereditament”) yw'r hereditament a ddisgrifir yn Rhan 4 o Atodlen y Rheoliadau Rhestr Ganolog;
 ystyr “Railtrack” (“Railtrack”) yw Railtrack plc;
 ystyr “y Rheoliadau Rhestr Ganolog” (“the Central List Regulations”) yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999;
 ystyr “rhestr ganolog” (“central list”) yw rhestr ardrethu annomestig canolog Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny; ac
 ystyr “trac” (“track”) yw'r ystyr a roddir i “track” gan adran 83 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993.
3 
Pan (ar wahân i'r erthygl hon) fydd unrhyw werth ardrethol y penderfynir arno o dan y Gorchymyn hwn yn cynnwys ffracsiwn o bunt —
(a) rhaid talgrynnu'r ffracsiwn i un bunt, os bydd yn fwy na 50c, a
(b) rhaid anwybyddu'r ffracsiwn os bydd yn 50c neu'n llai.
4 
Yn achos yr hereditament perthnasol, ni fydd paragraffau 2 i 2C o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn y bydd y rhestr ganolog mewn grym ar ei chyfer, a gwerth ardrethol yr hereditament hwnnw mewn unrhyw flwyddyn felly fydd —
(a) yn y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, £6,240,000, a
(b) mewn unrhyw flwyddyn arall sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 neu ar ôl hynny, y swm a geir drwy gymhwyso'r rheolau a ragnodir yn Erthygl 5.
5 

(1) Mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001, neu ar ôl hynny, gwerth ardrethol yr hereditament perthnasol fydd y swm a geir drwy adio £6,240,000 a'r ffactor ailgyfrifo a gyfrifir o dan yr Erthygl hon.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion cyfrifo'r ffactor ailgyfrifo pan yw'r swm ynglŷn â blwyddyn berthnasol a geir drwy gyfrifo ynglŷn â'r hereditament perthnasol yn unol â'r fformwla —k-KKyn 0.05, −0.05 neu unrhyw rif sydd rhwng y rhifau hyn.
(3)  Y ffactor ailgyfrifo ynglŷn â blwyddyn berthnasol y mae paragraff (2) yn gymwys iddi yw 0.
(4) Ynglŷn â blwyddyn berthnasol —
(a) y mae'r swm a gyfrifir mewn perthynas â hi yn unol â pharagraff (2) yn fwy na 0.05 neu'n llai na −0.05, neu
(b) nad yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â hi mewn perthynas â'r flwyddyn flaenorol berthnasol,
y ffactor ailgyfrifo yw'r swm a geir drwy gyfrifo yn unol â'r fformwla —Tk-KK
(5) At ddibenion yr erthygl hon —
 gwerth T yw £6,240,000;
 K yw'r amcangyfrif o hyd y trac perthnasol ar 31 Mawrth 2000;
 k yw'r amcangyfrif o hyd y trac perthnasol ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), drwy hyn diddymir y canlynol gydag effaith o 1 Ebrill 2000 —
(a) Gorchymyn y Rheilffyrdd (Gwerthoedd Ardrethol) 1994;
(b) Gorchymyn y Rheilffyrdd (Gwerthoedd Ardrethol) (Diwygio) 1999.
(2) Bydd darpariaethau'r Gorchmynion a grybwyllir ym mharagraff (1) yn dal i gael effaith ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny at y dibenion canlynol a'r dibenion sy'n gysylltiedig â hwy —
(a) unrhyw newid mewn rhestr ganolog a luniwyd cyn 1 Ebrill 2000, neu
(b) unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adran 58 (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) o'r Ddeddf o ran y swm taladwy mewn perthynas â hereditament am gyfnod perthnasol cyn 1 Ebrill 2000 fel y'i diffinnir yn yr adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Chwefror 2000