
Rhan I
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Gostyngiadau) a (Darpariaethau Trosiannol Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 11 Mawrth 2000.
(2) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Rhan II
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn
 ystyr “bwrdeistref sirol” (“county borough”) yw bwrdeistref sirol yng Nghymru a sefydlwyd o dan Ddeddf 1994;
 ystyr “Deddf 1994”(“the 1994 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac ystyr “adran 10” (“section 10”), “adran 11” (“section 11”) ac “adran 12” (“section 12”) yw adran 10 o'r Ddeddf, adran 11 o'r Ddeddf ac adran 12 o'r Ddeddf, yn eu tro;
 ystyr “y Rheoliadau Anableddau” (“the Disabilities Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gostyngiadau ar gyfer Anableddau 1992;
 ystyr “y Rheoliadau Budd-dâl” (“the Benefit Regulations”) yw Rheoliadau Budd-dâl y Dreth Gyngor (Cyffredinol) 1992; ac
 ystyr “sir” (“county”) yw sir yng Nghymru a sefydlwyd o dan Ddeddf 1994.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “ardal gymunedol” (“community area”) yw ardal sy'n gyfled ag ardal cymuned ar 1 Ionawr 2000; ac mae ardal gymunedol a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn wrth enw cymuned mewn sir neu fwrdeistref sirol yn golygu'r ardal sy'n gyfled ag ardal y gymuned honno ar 1 Ionawr 2000.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas â swm y mae person yn atebol am ei dalu mewn perthynas â'r dreth gyngor –
 Yn ddarostyngedig i reoliad 3(2) isod, mae'r “gostyngiad priodol” (“the appropriate reduction”) yn golygu'r swm (os oes swm) a ragnodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r ardal gymunedol berthnasol a'r band prisio perthnasol;
 ystyr “yr ardal gymunedol berthnasol” (“the relevant community area”) yw'r ardal gymunedol y mae'r annedd daladwy berthnasol ynddi;
 ystyr “yr annedd daladwy berthnasol” (“the relevant chargeable dwelling”) yw'r annedd daladwy y mae'r person yn atebol am dalu'r swm mewn perthynas â hi; ac
 yn ddarostyngedig i reoliad 3(3) isod a heblaw lle mae reoliad 3(2) isod yn gymwys, ystyr “y band prisio perthnasol” (“the relevant valuation band”) yw'r band prisio a ddangosir fel yr un sy'n gymwys ar gyfer yr annedd daladwy berthnasol yn rhestr brisio yr awdurdod bilio.
(4) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at berson sy'n atebol am dalu i awdurdod bilio, mewn perthynas ag annedd daladwy berthnasol, swm mewn perthynas â'r dreth gyngor (p'un a yw atebolrwydd y person hwnnw yn unig, neu'n gyd ac unigol), yn cynnwys, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, gyfeiriad at berson a fydd ym marn yr awdurdod yn atebol fel hyn; a dehonglir cyfeiriadau at y swm y mae person yn atebol am ei dalu yn unol â hyn.
3 

(1) Ym mharagraffau (2) a (3) ystyr person cymwys yw person sy'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau Anableddau.
(2) Yn y Rheoliadau hyn lle mae person sy'n berson cymwys yn atebol am dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd a restrir ym mand prisio A, y gostyngiad priodol fydd y swm a ddangosir yn y golofn o dan y pennawd A* yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(3) Lle mae person sy'n berson cymwys yn atebol am dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd a restrir mewn band prisio heblaw band prisio A, dehonglir unrhyw gyfeiriad at y band prisio perthnasol fel pe bai'n gyfeiriad at y band prisio amgen a fyddai'n gymwys yn achos y person hwnnw at ddibenion rheoliad 4 o'r Rheoliadau Anableddau.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod –
(a) os yw person yn atebol am dalu swm (“y swm”) i awdurdod bilio mewn perthynas â'r dreth cyngor am ddiwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2000,
(b) os yw'r swm yn cael ei benderfynu o dan adran 10, ac
(c) os yw'r annedd daladwy berthnasol mewn ardal gymunedol y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn,
caiff y swm ei ostwng drwy dynnu oddi wrtho swm a gyfrifir yn unol â'r fformwla –R365ac
 R yw'r gostyngiad priodol.
(2) Os yw'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a) uchod yn cael ei benderfynu o dan adran 10 wedi'i darllen ag adran 11 neu adran 12, tynnir y didyniad sy'n angenrheidiol o dan baragraff (1) uchod o'r swm gwreiddiol.
(3) Ym mharagraff (2) uchod y swm a fyddai'n cael ei benderfynu o dan adran 10 o'i darllen heb adran 11 ac adran 12 yw'r “swm gwreiddiol” (“the original amount”).
(4) Os oes penderfyniad yn dyfarnu budd-dâl y dreth gyngor o dan y Rheoliadau Budd-dâl yn effeithiol ynglŷn â'r annedd daladwy ar gyfer diwrnod y mae person yn atebol am dalu'r swm a grybwyllir yn is-baragraff 1(a) uchod mewn perthynas â'r annedd honno, y swm y mae'r person hwnnw'n atebol am ei dalu fydd –
(a) y swm a geir yn unol â pharagraff (1) uchod, neu baragraffau (1) a (2) uchod, yn ôl fel y digwydd, am y diwrnod hwnnw, llai
(b) budd-dâl treth cyngor y person hwnnw am y diwrnod hwnnw.
5 

(1) Pan fydd awdurdod bilio yn gwneud penderfyniad ynghylch sut mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu cymhwyso neu eu gweithredu mewn perthynas ag unigolyn, os bydd y person yr effeithir arno yn gofyn yn ysgrifenedig, rhaid i'r awdurdod roi datganiad ysgrifenedig i'r person hwnnw o'i benderfyniad a'r rheswm drosto; a rhaid anfon unrhyw ddatganiad o'r fath o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad y gofynnir amdano neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn.
(2) Ni ellir gwneud apêl i dribiwnlys prisio mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad gan awdurdod bilio sy'n cyfeirio at sut mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu cymhwyso neu eu gweithredu yn unig; ond fe all person a dramgwyddir gan benderfyniad o'r fath apelio at fwrdd adolygu a benodir gan yr awdurdod bilio ac a gyfansoddir fel y'i crybwyllir yn rheoliad 70(3) o'r Reoliadau Budd-dâl.
6 
Rhaid i apelydd hysbysu apêl o dan y Rheoliadau hyn yn ysgrifenedig i'r awdurdod bilio o fewn 4 wythnos o'r dyddiad y mae'r awdurdod bilio yn anfon y datganiad a grybwyllir yn rheoliad 5(1) uchod at yr apelydd.
7 

(1) Bydd rheoliadau 71(2) i (9) a 72(4) a (5) o'r Rheoliadau Budd-dâl yn gymwys gyda'r newidiadau angenrheidiol at ddibenion apêl o dan y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys at ddibenion adolygiad pellach.
(2) Rhaid i awdurdod bilio gydymffurfio ag unrhyw benderfyniad gan ei fwrdd adolygu.
Rhan III
8 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Hysbysiadau Galw am Dalu” (“the Demand Notices Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993.
(2) Am y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2000 bydd Atodlen 1 i'r Rheoliadau Hysbysiadau Galw am Dalu yn effeithiol fel pe bai
(a) yr is-baragraffau canlynol wedi'u hychwanegu ar ôl paragraff 6(1) – “
(1A) Where the dwelling to which the notice relates is situated in a community area referred to in the Schedule to the Council Tax (Reduction Scheme) and (Demand Notices Transitional Provisions) (Wales) Regulations 2000, a statement as regards–
(a) the relevant community area, and
(b) the relevant valuation band,
of the amount prescribed in the Schedule to the Council Tax (Reduction Scheme) and (Demand Notices Transitional Provisions) (Wales) Regulations 2000. 
(1B) In sub-paragraph (1A) above, “community area” and “the relevant valuation band” have the meanings given in the Council Tax (Reduction Scheme) and (Demand Notices Transitional Provisions) (Wales) Regulations 2000”; a
(b) y paragraff canlynol wedi'i ychwanegu ar ôl paragraff 13 –“
13A 
As regards any case to which regulations made under section 13 of the 1992 Act apply so that the amount required to be paid under the notice is less than it would be apart from those regulations, a statement of the amount of the reduction.”
(2) Am y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2000 bydd Rhan I o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Hysbysiadau Galw am Dalu yn effeithiol fel pe bai –
(a) yr is-baragraff canlynol wedi'i ychwanegu o dan is-baragraff (b) o baragraff 6 –“
(ba) grant under section 88A of the Local Government Finance Act 1988;” a
(b) y paragraff canlynol wedi'i ychwanegu ym mharagraff 15(b), ar ôl paragraff (iii) –“
(iiia) a person may be liable to pay an amount in respect of council tax which, by virtue of the provisions of the Council Tax (Reduction Scheme) and (Demand Notices Transitional Provisions) (Wales) Regulations 2000, is less than the amount it would be apart from those Regulations;”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mawrth 2000
ATODLEN
Rheoliadau 2 a 4


 Swm rhagnodedig (gostyngiad priodol) (£)
 Band prisio:
Ardal gymunedol/ardaloedd cymunedol A* A B C D E F G H
Yn sir:YNYS MÔNpob ardal gymunedol 3.00 3.60 4.20 4.80 5.40 6.60 7.80 9.00 10.80
Ym mwrdeistref sirolBLAENAU GWENT:pob ardal gymunedol 149.55 179.46 209.37 239.28 269.19 329.01 388.83 448.65 538.38
Ym mwrdeistref sirolMERTHYR TUDFUL:pob ardal gymunedol 96.65 115.98 135.31 154.64 173.97 212.63 251.29 289.95 347.94
Ym mwrdeistref sirolMYNWY:pob ardal gymunedol 3.55 4.26 4.97 5.68 6.39 7.81 9.23 10.65 12.78
Ym mwrdeistref sirolCASTELL-NEDD PORT TALBOTCilybebyll, Cwmllynfell, Gwauncaegurwen, Pontardawe, Ystalyferal 52.15 62.58 73.01 83.44 93.87 114.73 135.59 156.45 187.74
Ym mwrdeistref sirolCASTELL-NEDD PORT TALBOT:Blaen-gwrach, Blaenhonddan, Llansawel, Y Clun, Coed-ffranc, Creunant, Dyffryn Clydach,Glyn-nedd, Castell-nedd, Onllwyn, Pelenna, Resolfen, Blaendulais, Tonna 37.55 45.06 52.57 60.08 67.59 82.61 97.63 112.65 135.18
Ym mwrdeistref sirolCASTELL-NEDD PORT TALBOT:Aberafan, Baglan, Bae Baglan, Bryn, Cwmafan, Glyncorrwg, Margam, Gweunydd Margam, Port Talbot, Dwyrain Sandfields, Gorllewin Sandfields, Tai-bach 38.40 46.08 53.76 61.44 69.12 84.48 99.84 115.20 138.24
Ym mwrdeistref sirolRHONDDA CYNON TAF:Aberaman, Abercynon, Aberdâr, Cwm-bach, Hirwaun, Llwytgoed, Aberpennar, Penrhiw-ceibr, Pen-y-waun, Y Rhigos, Ynys-y-bwê l 43.05 51.66 60.27 68.88 77.49 94.71 111.93 129.15 154.98
Ym mwrdeistref sirolRHONDDA CYNON TAF:Cwm Clydach, Cymer, Ferndale, Llwynypia, Y Maerdy, Pentre, Pen-y-graig, Y Porth, Tonypandy, Trealaw, Trehafod, Treherbert, Treorci, Tylorstown, Ynys-hir, Ystrad 33.90 40.68 47.46 54.24 61.02 74.58 88.14 101.70 122.04
Ym mwrdeistref sirolRHONDDA CYNON TAF:Gilfach-goch, Llanharan, Llanhari, Llantrisant, Llanilltud Faerdre, Pont-y-clun, Pontypridd, Ffynnon Taf, Tonyrefail 52.15 62.58 73.01 83.44 93.87 114.73 135.59 156.45 187.74