
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2 
Yn y Gorchymyn hwn –
 ystyr “BG plc” (“BG plc”) yw'r cwmni a gofrestir yn yr enw hwnnw ar 9 Tachwedd 1999;
 ystyr “blwyddyn” (“year”) yw blwyddyn ariannol daladwy;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988; ac
 ystyr “hereditamentau nwy Cymru” (“Welsh Gas hereditaments”) yw hereditamentau annomestig a feddiennir (neu, os nas meddiennir, a berchnogir) gan BG plc y mae'n ofynnol iddynt yn rhinwedd rheoliad 3(1) o Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 a Rhan 3 o'r Atodlen iddynt gael eu dangos ar y rhestr ardrethu canolog; ac
3 
Yn achos hereditamentau nwy Cymru, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000 ac mewn unrhyw flwyddyn o'r fath gwerth ardrethol hereditamentau nwy Cymru fydd £32,059,000.
4 

(1)  Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir drwy hyn Gorchymyn British Gas plc (Gwerthoedd Ardrethol) 1994 o'r 1 Ebrill 2000 ymlaen.
(2) Bydd Gorchymyn British Gas plc (Gwerthoedd Ardrethol) 1994 yn parhau'n effeithiol ar ac ar ôl 1 Ebrill 2000 at ddibenion neu ddibenion sy'n gysylltiedig ag—
(a) unrhyw newid i restr mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2000; neu
(b) unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan reoliadau a wnaed o dan adran 58 o'r Ddeddf (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) ynglŷn â'r swm taladwy am hereditament am gyfnod perthnasol fel y'i ddiffinnir yn yr adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2000