
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Offer Telathrebu) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “offer wedi'i eithrio” (“excepted apparatus”) yw offer telathrebu a feddiennir gan berson—
(a) y dangosir ei enw am y tro mewn rhestr ardrethu annomestig canolog; a
(b) nad yw'n gynhaliwr mewn perthynas â'r safle y mae'r offer wedi'i leoli arno neu yn gysylltiedig ag ef;ystyr “cynhaliwr” (“host”) yw'r person sydd â'r hawl i gael taliad mewn perthynas â defnyddio unrhyw ran o safle gan unrhyw berson arall sy'n weithredydd sy'n meddiannu offer telathrebu;
 ystyr “Deddf 1949” (“the 1949 Act”) yw Deddf Telegraffiaeth Radio 1949;
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Telathrebu 1984;
 ystyr “gweithredydd” (“operator”) yw unrhyw berson sydd wedi'i drwyddedu i redeg system delathrebu o dan adran 1 o Ddeddf 1949 neu adran 7 o Ddeddf 1984;
 mae “offer telathrebu” (“telecommunications apparatus”) yn cynnwys—
(a) offer telathrebu o fewn yr ystyr a roddir i “telecommunications apparatus” gan Atodlen 2 i Ddeddf 1984 a ddefnyddir, neu a ddyluniwyd i'w ddefnyddio, ar gyfer—
(i) telegraffiaeth radio o fewn yr ystyr a roddir i “wireless telegraphy” gan adran 19 o Ddeddf 1949, neu
(ii) darlledu; a
(b) strwythurau o natur cabanau neu adeiladau eraill (gan gynnwys strwythurau sy'n ffurfio rhan yn unig o adeilad) a ddefnyddir, neu a ddyluniwyd i'w defnyddio, dim ond i gartrefu offer o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a);ynghyd ag unrhyw offer atodol a feddiennir at ddibenion gweithredydd yn unig;
 ystyr “hereditament telathrebu” (“telecommunications hereditament”) yw safle a feddiennir gan offer telathrebu yn unig sy'n cael ei weithredu neu ei berchenogi gan fwy nag un gweithredydd ac er mwyn penderfynu a yw hereditament yn cael ei feddiannu gan offer telathrebu yn unig, anwybyddir presenoldeb personél ar y safle, a llety ar eu cyfer, yn unswydd ar gyfer cynnal-a-chadw, trwsio, gweithredu neu ddiogelu'r offer.
3 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i offer telathrebu, heblaw offer wedi'i eithrio—
(a) sy'n gysylltiedig â hereditament telathrebu neu wedi'i leoli ynddo neu arno; a
(b) a feddiennir neu a berchenogir yn y fath fodd ag i ffurfio (ar wahân i'r rheoliad hwn) un neu ragor o hereditamentau.
(2) Rhaid trin offer telathrebu y mae paragraff (1) yn gymwys iddo a'r hereditament y mae wedi'i gysylltu ag ef, yn ddarostyngedig i baragraff (3), fel hereditament unigol sydd ym meddiant neu berchenogaeth y cynhaliwr.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw hereditament telathrebu ar adeilad neu strwythur, neu yn ffurfio rhan o adeilad neu strwythur y mae'r cyfan neu unrhyw ran ohono ym mherchenogaeth neu ym meddiant y cynhaliwr at unrhyw ddiben heblaw darparu neu weithredu safle ar gyfer offer telathrebu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Rhagfyr 2000