
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cadw Mincod (Cymru) 2000, bydd yn gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Ionawr 2001.
(2) Bydd effaith y Gorchymyn hwn yn peidio ar 1 Ionawr 2004.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932; ac
 ystyr “mincod” (“mink”) yw'r anifeiliaid sy'n perthyn i'r rhywogaeth Mustela vison.
3 
Gwaherddir cadw mincod, ac eithrio o dan drwydded a roddir o dan y Ddeddf.
4 
Wrth gymhwyso'r Ddeddf at fincod, hepgorir adran 5(2) ac, yn adran 6(1), baragraff (f) a'r cyfeiriad at gosb yn achos tramgwydd o dan baragraff (f).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Rhagfyr 2000