
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000 a deuant i rym ar 8 Rhagfyr 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Plant Cymru;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “plant perthnasol” (“relevant children”) yw unrhyw blant sy'n preswylio yng Nghymru sy'n cael eu dethol at ddibenion penodiad penodol yn y fath fodd —
(a) ag y gellid ei benderfynu gan y pwyllgor perthnasol yn unol â chylch gorchwyl y pwyllgor, neu
(b) yn absenoldeb penderfyniad o'r fath, ag y mae'n rhaid i'r Prif Ysgrifennydd ei benderfynu;
 ystyr “y Prif Ysgrifennydd” (“the First Secretary”) yw'r person a etholir o dro i dro yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad yn unol ag adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;
 ystyr “pwyllgor perthnasol” (“relevant committee”) yw unrhyw bwyllgor y gellid ei sefydlu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dro i dro o dan adran 54(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 er mwyn darparu cyngor a phenderfynu materion sy'n berthnasol i benodi'r Comisiynydd.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Rhaid i'r Comisiynydd gael ei benodi gan y Prif Ysgrifennydd.
(2) Dim ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth y bydd y Comisynydd yn cael ei benodi—
(a) cyngor pwyllgor perthnasol,
(b) barn plant perthnasol ynghylch unrhyw ymgeiswyr a gafodd eu cyfweld ar gyfer y penodiad, ac
(c) cyngor unrhyw banel dewis, a sefydlwyd er mwyn cyfweld ymgeiswyr, ynghylch eu priodoldeb ar gyfer y penodiad.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 3, saith mlynedd fydd cyfnod swydd y Comisynydd.
(4) Ni fydd y Comisiynydd yn gymwys i gael ei ailbenodi pan ddaw cyfnod y swydd i ben neu os terfynir hi cyn hynny.
3 
Gall y Prif Ysgrifennydd ryddhau'r Comisiynydd o'i swydd cyn i gyfnod y swydd ddod i ben —
(a) ar gais y Comisiynydd,
(b) ar sail camymddwyn, neu
(c) os bydd wedi'i fodloni nad yw'r Comisynydd yn alluog oherwydd gwendid meddyliol neu gorfforol i gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd.
4 
Os bydd y Prif Ysgrifennydd yn arfer swyddogaethau a roddir gan y rheoliadau hyn, bydd arfer y swyddogaethau hynny'n cael ei drin fel pe bai'n arfer gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
