
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Rhif 2) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Ym mharagraff (2) o Reoliad 1 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn y diffiniad o “NHS sight test fee”, yn lle'r swm “£41.54” rhowch “£42.79” ac yn lle'r swm “£15.01” rhowch “£15.46”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Ceneolaethol
23 Tachwedd 2000